English Pwy yw Cyfwe?
Sefydlwyd y safle hwn gyda chymorth nawdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae ei gartref yn yr Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrifysgol Cymru Abertawe, lle y ceir cwrs MA mewn cyfieithu llenyddol, ond mae aelodaeth y Bwrdd Golygyddol yn ehangach o lawer, fel a ganlyn:

Yr Athro Dafydd Johnston
Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Abertawe

Dr Mererid Hopwood
Cyngor Celfyddydau Cymru

Sioned Rowlands
Llenyddiaeth Cymru Dramor

Dr Angharad Price
Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Abertawe

Jean-Yves Le Disez a Carys Le Disez
Adran y Saesneg, Prifysgol Brest, Llydaw

Dr Sabine Heinz
Yr Adran Gelteg, Prifysgol Humboldt, Berlin

Beth yw amcanion Cyfwe?
Cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg gyfoes i gynulleidfa ehangach yw prif nod y safle. Fe geir ambell ddarn Saesneg hefyd er mwyn rhoi darlun cyflawnach o lenyddiaeth Cymru heddiw. I gychwyn y safle rydym wedi dewis y dilyniant o gerddi a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1998, darn o nofel, stori fer, ysgrif, a dilyniant o gerddi Saesneg. Bydd y safle'n datblygu dros y misoedd nesaf wrth i ni ychwanegu cyfieithiadau o weithiau eraill.

Comisiynwyd cyfieithiadau i nifer fawr o ieithoedd, a'n bwriad yw gwneud hwn yn safle gwirioneddol amlieithog. Gellir gweld pob cyfieithiad ochr-yn-ochr â'r gwreiddiol, a cheir cyflwyniad i'r darn a gwybodaeth am yr awdur. Gwahoddwyd y cyfieithwyr i roi sylwadau ar eu gwaith. Mae yma wybodaeth gefndirol am yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac fe gewch ddolenni i fynd â chi i safleoedd perthnasol eraill.

Argraffu
Mae croeso i chi argraffu un copi o unrhyw beth ar y safle hwn at eich defnydd eich hun. Mae'r ffordd i argraffu testun yn dibynnu i raddau ar y porwr a/neu'r peiriant sydd gennych, ond yr un fydd y dull yn y bôn. Dewiswch y testun rydych am ei argraffu trwy glicio ar unrhyw ran ohono, ac yna dewiswch 'Print' neu 'Print Frame' (ar ambell system mae modd argraffu'r testun trwy 'dde-glicio' ar tô dewis y ffrâm).

Am resymau technegol ni fu'n bosibl dodi acenion ar w nac y yn y testunau Cymraeg. Mae angen meddalwedd arbennig i ddarllen y cyfieithiadau Groeg, Rwsieg, Arabeg a Hebraeg.

Mae'r hawlfraint yn eiddo'r awduron a'r cyfieithwyr. Cedwir pob hawl.